ADENDWM I YMATEB Y LLYWODRAETH: Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

 

Ar 7 Tachwedd 2022, cyflwynodd y Llywodraeth ymateb i adroddiad drafft y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dyddiedig 31 Hydref 2022, mewn cysylltiad â’r Rheoliadau uchod.

Nododd yr ymateb a roddwyd mewn perthynas â phwynt Craffu Technegol 4 y byddai adborth pellach yn cael ei roi i’r pwyllgor ar ôl rhoi ystyriaeth bellach i’r mater a godwyd. Mae’r ymateb llawn a roddwyd mewn perthynas â phwynt Craffu Technegol 4 wedi ei atgynhyrchu isod er hwylustod:

 

Pwynt Craffu Technegol 4

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argymhelliad o blaid safoni’r cyfieithiad o “gross indecency”.

Defnyddiwyd “anwedduster garw” fel ffordd o gyfieithu “gross indecency” yn Rheoliadau 2010, a dyma’r cyfieithiad a awgrymir mewn sawl ffynhonnell wahanol, sy’n awgrymu bod y cyfieithiad hwn yn gywir ac yn dderbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, fodd bynnag, fod “anwedduster difrifol” wedi ei ddefnyddio mewn Rheoliadau mwy diweddar yn 2019.

Rydym wedi codi’r mater hwn â chydweithwyr proffesiynol ym maes cyfieithu deddfwriaethol, ond yn y byr amser rhwng cael adroddiad y cynghorwr cyfreithiol a drafftio ymateb, nid yw’n cydweithwyr wedi gallu rhoi ystyriaeth lawn i’r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi adborth i’r pwyllgor cyn gynted ag y bydd y mater wedi’i ystyried a barn wedi’i llunio.

 

Bellach, mae cydweithwyr perthnasol ym maes cyfieithu deddfwriaethol wedi cael cyfle i roi ystyriaeth lawn i’r mater hwn ac wedi penderfynu o blaid defnyddio ‘anwedduster difrifol’ fel y cyfieithiad safonol o ‘gross indecency’. Bydd y term yn cael ei ychwanegu at gronfa ddata terminoleg ar-lein y Gwasanaeth Cyfieithu – TermCymru - fel y cyfieithiad safonol o ‘gross indecency’ er mwyn sicrhau defnydd cyson o’r term yn y dyfodol.